Telerau ac amodau

Telerau ac amodau

  • Blaen-dâl o 30% wrth archebu. Ni ellir ei ad-dalu
  • Y gweddill i’w dalu fis ymlaen llaw i’r dyddiad cyrraedd
  • Os gwelwch yn dda rhowch ystyriaeth i gymdogion yn sgîl lefelau sŵn ar ôl 11yh
  • Rydym yn atgoffa gwesteion bod Tŷ Barcud wedi ei leoli mewn amgylchedd naturiol. Mae croeso mawr i chi i anturio’r safle ond cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun ynghyd ag unrhyw ymwelydd a fyddwch yn ei wahodd i’r safle
  • Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw ddamweiniau
  • Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda am unrhyw beth a dorrir ac unrhyw ddifrod a wneir er mwyn i ni fedru delio â hyn cyn gynted â phosibl
  • Rydym yn cadw’r hawl i newid ein gwefan, gan gynnwys prisiau, telerau ac amodau, heb rybudd.