Amdanom ni

Hugh a Barb Jones ydym ni, perchnogion Dŷ Barcud.. We live in the tiny hamlet of Cnwch Coch which is 2 miles from Llanfihangel-y- Creuddyn where there is a school, church and Y Ffarmers gastro pub. We have one well trained, very sociable Springer Spaniel called Twm, but don’t worry- he won’t have any access to your meadow for the duration of your stay.

Mae’n pod glampio wedi ei leoli yn y ddôl 2 erw y tu ôl i’n tŷ ni, a chi yn unig fydd ag e yn ystod eich arhosiad. Ceir mynediad iddo o’ch safle parcio ar hyd llwybr unigol ar draws yr ardd a thrwy giât i mewn i’r ddôl a’n coedwig Gymreig. Yma fe ddewch o hyd i amrywiol fathau o goed, perllan afalau a golygfeydd syfrdanol o hardd o ddyffryn Ystwyth. Oddi fry mae’r Barcutiaid Coch ac adar eraill yn ehedeg, tra bo’r ddôl yn gartref i’n hwyaid a’n cywion ieir maes. Mae’r pod ar siâp cylch, wedi’i gladio â choed cedrwydd ac wedi’i inswleiddio’n gyfan gwbl er mwyn cynnig profiad clyd a chysurus i ddau oedolyn*.

Rydym wedi’n lleoli mewn man delfrydol i ddianc rhag ffair a ffwndwr bywyd pob dydd, ac mae’n berffaith i dorri cysylltiad â’r byd am gyfnod (nid oes rhwydwaith ffôn symudol yn y pod, ond peidiwch â phoeni mae cysylltiad diwifr ar gael, dim ond i chi ofyn!) 

Gan ein bod 9 milltir i ffwrdd o Aberystwyth a’r siopau cyfagos, rydym yn darparu basgedaid groesawgar i chi yn eich pod. Ynddi fe ddewch o hyd i dorth fechan, menyn, llaeth, diod feddal a phice ar y maen a jamiau. Am dâl ychwanegol gallwn hefyd gynnig y basgedi canlynol:

  • Brecwast – y fasged groesawgar ynghyd â bacwn a selsig Cymreig a’n hwyau maes
  • Danteithion – yr uchod oll ynghyd â photel o win, cwrw Cymreig a thryffls siocled
  • Dathliad – Prosecco, bocs o siocled a thusw o flodau

Fel rhan o’r pod a’r ddôl mae’r canlynol:

Yn y pod:

  • Gwely dwbl gyda chynfasau moethus a charthen blu (carthen ffibr ar gais)
  • Carthenni gwlân
  • Storfa o dan y gwely
  • Kitchenette with sink (boil kettle for the hot water), fridge, induction hob, microwave, kettle, toaster, tea towels, hand towel, dishcloths, all pots, pans, crockery and cutlery you will need. Also complimentary tea, coffee (instant and ground), sugar, oil, salt and pepper, washing up liquid and ketchup.
  • Pecyn cymorth cyntaf a fflachlamp
  • Teledu ar gyfer DVDs gyda chyswllt USB
  • Bwrdd gydag asgell, ynghyd â lliain a chadeiriau pren
  • DVDs, gemau a llyfrau
  • Cyswllt di-wifr (ar gais)
  • Drych a lamp
  • Wet room with electric power shower, washbasin (boil kettle for hot water) and loo, bathmat, loo rolls and liquid soap (Ni ddarperir tywelion)

Y tu allan i’r pod:

  • Ar y deciau – sgiw bren gyda lle i storio esgidiau
  • Ar y patio – bwrdd a 4 cadair, goleuadau solar
  • Y tu ôl i’r pod – biniau ailgylchu a gwastraff
  • Ar y ddôl – lle tân a seddau, crogwely rhwng 2 goeden, sied i sychu cotiau ac esgidiau a lle i storio golosg, matsys a choed
  • Wrth ymyl eich maes parcio, mae yna fynediad i garej ar gyfer cadw eich beic mynydd. Gallwch ddefnyddio’r peiriant sychu dillad a’r rhewgell unrhyw bryd yn ystod eich arhosiad.